manual override of alt text

Cymraeg

Sir Conwy yn ymuno â'r ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno mynegiant o ddiddordeb i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 o dan y teitl Conwy 2025.

Mae sir Conwy yn uchelgeisiol a dynamig. Yn newid ac yn esblygu’n gyson tra’n parhau i gysylltu’n gryf â’n cymunedau, diwylliant a threftadaeth. Sir llawn talent, profiad, cyfleoedd a datblygiadau diwylliannol.

Bydd Conwy 2025, yn gweithio gyda chast o filoedd yn cyd-gynhyrchu rhaglen ddiwylliannol chwareus, gyda’u gymunedau sy’n dathlu sir Conwy ar lwyfan y byd. Gydag ysbryd antur i gysylltu pawb sy’n byw, gweithio ac ymweld â Chonwy drwy ein tirluniau anhygoel, iaith, treftadaeth a thraddodiadau.

Drwy ddefnyddio grym trawsnewidiol diwylliant, bydd Conwy 2025 yn creu model newydd o dwristiaeth barchus a chynaliadwy a dod â buddion cymdeithasol ac economaidd parhaus i’n cyrchfan arbennig.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Bydd Conwy 2025 yn antur oes. Mae gan y sir eisoes enw da heb ei ail am gynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf ac am fod yn un o gyrchfannau gorau’r byd. Bydd Conwy 2025 yn creu Sbardun o fewn ein cymunedau fydd yn arwain at dwf economaidd, lles a chysylltedd.

“Wrth i ni baratoi i lansio Strategaeth Ddiwylliant newydd ar gyfer Sir Conwy, mae gwneud cais am statws mawreddog Dinas Ddiwylliant y DU 2025 yn gyfle gwych yr ydym yn barod i’w gyflawni.

“Heb anghofio, bydd Conwy 2025 yn datblygu dull a ysgogir gan y gymuned. Mae Dinas Diwylliant y DU i gyd amdanoch chi, y preswylwyr, y busnesau a’r ymwelwyr â sir Conwy – sut y gall diwylliant wneud gwahaniaeth i chi a’ch cymuned.”

Roedd Distyllfa Penderyn wedi cyhoeddi ei gefnogaeth ariannol i Conwy 2025 yn ddiweddar ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dywedodd Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol Penderyn “byddai Penderyn yn cefnogi Sir Conwy fel partneriaid ar y cyd â’r bobl, y sefydliadau a’r busnesau sy’n gweithio i greu digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol eithriadol drwy gydol 2025.”

I wybod mwy Conwy2025.co.uk a dilynwch ni ar @Conwy2025 ar Instagram, Facebook a Twitter #Conwy2025