manual override of alt text
manual override of alt text
manual override of alt text
manual override of alt text
manual override of alt text

Cymraeg

Pam Conwy?

Pam ddim! Rydym yn uchelgeisiol a dynamig. Yn newid ac yn esblygu’n gyson tra’n parhau i gysylltu’n gryf â’n cymunedau, diwylliant a threftadaeth. Sir llawn talent, profiad, cyfleoedd a datblygiadau diwylliannol. Unwaith y byddwch yn ymweld ni fyddwch yn ei anghofio.

Yn gweithio gyda chast o filoedd bydd Conwy 2025 yn cyd-gynhyrchu rhaglen ddiwylliannol chwareus, ynghyd â’n cymunedau, sy’n dathlu Conwy ar lwyfan y byd.

Byddwn yn defnyddio ysbryd antur i gysylltu pawb sy’n byw, gweithio ac ymweld â Chonwy drwy ein tirluniau anhygoel, iaith, treftadaeth a thraddodiadau.

Drwy ddefnyddio grym trawsnewidiol diwylliant, bydd Conwy yn creu model newydd o dwristiaeth barchus a chynaliadwy a dod â buddion cymdeithasol ac economaidd parhaus i’n cyrchfan arbennig.

Castell Gwrych Castle ©Tim Walker (Louis Vuitton)