manual override of alt text

Cymraeg

Cymuned

Mae’r dyhead i ddatblygu gweledigaeth Strategaeth Ddiwylliant Conwy yn ganolbwynt ar gyfer rhwydwaith cryf a chynrychiadol i gefnogi bywyd diwylliannol hyd at 2025 a thu hwnt.

Rydym yn bwriadu cyd-greu gyda’n harweinwyr cymunedol, capasiti hirdymor, datblygu cyfleoedd drwy wirfoddoli, hyfforddi a rhwydweithio, a byddwn yn datblygu’r pobl y tu ôl i’r ffactor ‘waw’.

Bydd Conwy 2025 yn dod ag arweinyddiaeth gydlynol a chryf tra’n grymuso cymunedau i gyfarwyddo rhaglennu yng ngwreiddiau ein trefi a phentrefi.

Ein trefi lansio yw Abergele, Bae Colwyn, Llandudno, Llanrwst a Chonwy. Byddwn yn creu timau tref i ysgogi datblygiad diwylliannol, rhyng-genhedlaethol, creadigol a chymunedol mewn ffordd gyfunol.

Bydd Conwy 2025 yn sicrhau cynrychiolaeth arweinwyr cymunedol, creadigol a sefydliadau celf cymunedol, busnes lleol, cludiant ac yn hanfodol, preswylwyr lleol ar draws ein tirlun diwylliannol.

Rydym yn credu’n angerddol mewn ymddiried yn y cynghreiriau creadigol hyn i ddatblygu prosiectau sy’n adlewyrchu pobl, brwdfrydedd a blaenoriaethau lleol.