manual override of alt text

Cymraeg

Y Tîm

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar ran Sir Conwy, fydd yn arwain y cais ac yn sefydliad atebol.

Dydi hyn ddim yn rhywbeth newydd i’r Cyngor gan fod gennym ni eisoes enw da am gynnal a darparu digwyddiadau byd enwog yn ogystal â phrofiad sylweddol o reoli rhaglenni partneriaeth pwysig fel y rheiny dan Amcan 1 Rhaglen yr UE a’r Rhaglen Gydgyfeirio – lle llwyddasom i reoli prosiectau partneriaeth gwerth £50 miliwn a mwy. Bydd ein partneriaid gwych hefyd yn ffurfio rhan o’r tîm a fydd yn arwain ar ddatblygu Conwy 2025.