manual override of alt text
manual override of alt text

Cymraeg

Mae Sir Conwy ‘yn fwy cyffrous nag erioed’ i ddarparu rhaglen ar gyfer diwylliant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2025 ac mae’n fwy penderfynol nag erioed i ddarparu strategaeth ddiwylliant ar gyfer Sir Conwy.

Dywedodd Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Roeddem yn gwybod y byddai yna gystadleuaeth anodd ar gyfer y statws Dinas Diwylliant ac roedd yn anrhydedd bod yn rhan o grŵp mor gryf o gystadleuwyr. Rydym yn dymuno’r gorau i bawb gafodd eu dewis i gymryd rhan yn y cam nesaf.”

“Mae cymryd rhan yn Ninas Diwylliant y DU wedi ychwanegu momentwm gwirioneddol i’r siwrnai rydym eisoes arni drwy ein strategaeth ddiwylliant newydd, sy’n cydnabod rôl bwysig iawn mae twristiaeth ddiwylliannol yn ei chwarae i gefnogi a datblygu ein heconomi. Rydym wedi gallu rhannu ein cornel fendigedig o Gymru ar lwyfan y DU ac ymgysylltu â mwy nag 1 biliwn o bobl. Ein tasg nawr yw ailgrwpio, dysgu o’r broses ac edrych ymlaen at ddarparu rhai o’r canlyniadau cyffrous iawn i’n cymunedau yma yng Nghonwy drwy ein strategaeth ddiwylliant.”

Mae Sir Conwy yn croesawu bron i 10 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau ei dirlun anhygoel, croeso cynnes Cymreig a chelfyddydau cyfoes ac adloniant sy’n ffynnu.

Mae’r sir yn cynnwys canran uchel o siaradwyr Cymraeg, traddodiad ffermio cryf, oriel MOSTYN sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, cyrchfannau traeth Fictoraidd godidog a safleoedd treftadaeth bendigedig o’r tŷ lleiaf ym Mhrydain i un o gestyll mwyaf Cymru.

Wrth gydnabod y cynnig diwylliannol unigryw hwn a’i gofnod cadarn eisoes am ddarparu digwyddiadau mawr, mae Sir Conwy wedi bod yn gweithio ar strategaeth ddiwylliannol newydd a dynamig i gefnogi twf economaidd a lles cymunedol. Roedd y strategaeth hon yn gosod y sylfeini ar gyfer penderfyniad y sir i ymuno â ras Dinas Diwylliant y DU.

Dywedodd Jane Richardson, Cyfarwyddwr Strategol Economi a Lle: “Rydym yn falch iawn o’r cais wnaethom ei gyflwyno ar gyfer Dinas Diwylliant y DU, oedd yn adlewyrchu uchelgeisiau ar gyfer ein Strategaeth Ddiwylliant newydd. Mae’r strategaeth hon yn ymwneud â gweithio i greu mentrau diwylliannol sy’n newid y ffordd mae pobl yn gweld Conwy, cysylltu cenedlaethau a dathlu’r Gymraeg. Rydym yn parhau i ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r weledigaeth honno ac rydym yn edrych ymlaen at wneud y gwaith hwnnw.”

Medddai’r Cyng. Mark Baker, Aelod Cabinet y Celfyddydau, Treftadaeth, Llyfrgelloedd a Diwylliant: “Yn naturiol, rydym yn siomedig nad ydym ar y rhestr hir ond yn falch iawn fod ein cyd ymgeiswyr, yn arbennig ein cymdogion Cymreig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fydd yn gwneud yn wych yn cynrychioli ein gwlad wych ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym eisiau diolch i bob unigolyn sydd wedi cyfrannu at y broses Dinas Diwylliant yng Nghonwy gyda’u hamser, ymroddiad a syniadau. Rydym wedi bod yn lwcus i weithio gyda chroesdoriad eang o bobl hynod greadigol.”