manual override of alt text

Cymraeg

Cais Diwylliant Conwy yn cael hwb gan Wisgi Cymreig

Mae cwmni wisgi Cymreig byd-enwog Penderyn yn ymuno â Sir Conwy, un o gyrchfannau gorau’r byd, yn ei chais i ddod yn Ddinas Ddiwylliant 2025.

Mae Penderyn wedi ymuno fel partner masnachol ar gamau cynnar y cais, wrth i Gonwy geisio dwyn perswâd ar banel beirniaid y gystadleuaeth gyda rhaglen ddiwylliannol eithriadol a fydd wedi’i seilio yn y gymuned ac yn wirioneddol Gymreig.

Mae Distyllfa Penderyn yn cefnogi’r cais gan y credant y bydd Conwy 2025 yn dathlu Conwy ar lwyfan byd-eang gan ddefnyddio "ysbryd chwareus ac anturus”, sef y naws a gysylltir hefyd â Penderyn.

Mae Conwy 2025 a Penderyn ill dau’n rhannu’r cysyniad Cymreig o Hiraeth. Nod yr ymgyrch yw ceisio cysylltu cymunedau ledled y DU a thu hwnt â’r Hiraeth hwn.

Bydd rhaglen Conwy 2025 lwyddiannus yn cynnig gweithgareddau all drawsnewid bywydau pobl yn yr hirdymor, gan gefnogi uchelgais Cymru i warchod cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Penderyn yn falch o gael cefnogi’r cais gan eu bod yn gwybod sut beth yw bod yn arloeswyr wisgi Cymreig. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Penderyn, Stephen Davies: “I ennill, byddai Penderyn yn cefnogi Sir Conwy fel partneriaid ar y cyd â’r bobl, y sefydliadau a’r busnesau sy’n gweithio i greu digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol eithriadol drwy gydol 2025.

Ychwanegodd Davies: “Mae gan Penderyn bellach leoliad yng nghanol Dyffryn syfrdanol Conwy, sy’n gartref i’r rhan fwyaf o gestyll byd-enwog Cymru ac sy’n eistedd ar lannau un o afonydd harddaf Ewrop, sef Afon Conwy.”

“Mae miloedd o gefnogwyr ffyddlon Penderyn hefyd yn dod o Gonwy,” meddai.

Maent hefyd yn barod i gynnig eu distyllfa yn Llandudno i’w defnyddio i gynnal digwyddiadau diwylliannol Conwy 2025, ac wrth gwrs, maent eisoes ynghlwm wrth gynnig diwylliannol Conwy gan eu bod yn defnyddio adnoddau lleol Conwy i gynhyrchu eu wisgi yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Bydd Conwy 2025 yn antur oes. Mae gan y Sir eisoes enw da heb ei ail am gynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf ac am fod yn un o gyrchfannau gorau’r byd. Mae cefnogaeth brand byd-enwog fel Penderyn yn cryfhau ein cais ymhellach ac rydym yn falch iawn o’u croesawu fel partner masnachol ar y cam datgan diddordeb”.

“Credwn fod gwneud cais am statws mawreddog Dinas Ddiwylliant y DU 2025 yn gyfle gwych yr ydym yn barod i’w gyflawni wrth i ni baratoi i lansio Strategaeth Ddiwylliant newydd ar gyfer y Sir.”